Health and Safety
Executive / Commission
Publications
Gall trydan ladd. Bob blwyddyn rhoddir gwybod i'r Awdurdod Gweithredol lechyd a Diogelwch (HSE) am tua 1000 o ddamweiniau yn y gwaith yn ymwneud â sioc neu losgiadau trydan. Mae tua 30 o'r rhain yn angheuol. Mae'r mwyafrif o'r marwolaethau hyn yn deillio o gysylltiad â cheblau pŵer uwchben neu danddaear.
Gall hyd yn oed sioc nad yw'n angheuol achosi anafiadau difrifol a pharhaus. Gall sioc o offer â nam arwain at syrthio oddi ar ysgolion, sgaffaldiau neu lwyfannau gwaith eraill. Hwyrach nad y rheini sy'n defnyddio trydan yw'r unig rai sydd mewn perygl: gall gosodiadau trydanol gwael ac offer trydanol â nam achosi tanau a all hefyd achosi marwolaeth neu anafiadau i eraill. Gellir osgoi'r mwyafrif o'r damweiniau hyn drwy gynllunio'n ofalus a chymryd camau diogelu syml.
Mae'r daflen hon yn amlinellu camau sylfaenol i'ch helpu i reoli'r risgiau wrth ddefnyddio trydan yn y gwaith. Rhestrir arweiniad manylach ar gyfer diwydiannau neu bynciau penodol ar dudalennau 6 - 8. Os ydych yn ansicr ynglŷn â materion diogelwch neu eich cyfrifoldebau cyfreithiol, cysylltwch â'ch arolygydd iechyd a diogelwch lleol. Bydd rhif ffôn eich swyddfa HSE leol yn y llyfr ffôn o dan Health and Safety Executive. Ar gyfer eiddo a archwilir gan awdurdodau lleol y pwynt cyswllt mwy na thebyg fydd adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor lleol.
BETH YW'R PERYGLON?
Y prif beryglon yw:
ASESU'R RISG
Ystyr perygl yw unrhyw beth a all achosi niwed.
Risg yw'r siawns, mawr neu fach, y caiff rhywun ei niweidio gan y perygl.
Y cam cyntaf wrth reoli risg yw asesu risgiau er mwyn nodi'r hyn sydd angen ei wneud. (Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol ar gyfer pob risg yn y gwaith).
Wrth asesu risgiau:
Mae'r risg o anaf o drydan wedi'i gysylltu'n gryf
â ble a sut y caiff ei ddefnyddio.
Mae'r risgiau ar eu gwaethaf o dan amodau garw, er
enghraifft:
Gall rhai eitemau o offer hefyd gynnwys mwy o risg nac eraill. Mae ceblau estyn yn arbennig o agored i ddifrod - i'w plygiau a'u socedi, i'w cysylltiadau trydanol, ac i'r cebl ei hun. Gall ceblau hyblyg eraill, yn arbennig y rheini wedi'u cysylltu i offer sy'n cael eu symud yn aml, ddioddef problemau tebyg.
Ceir mwy o wybodaeth am asesu risgiau mewn cyhoeddiadau HSE eraill a restrir ar dudalen 6 y daflen hon.
LLEIHAU'R RISG
Unwaith y byddwch wedi cwblhau asesu'r risgiau, gallwch ddefnyddio eich canfyddiadau i leihau risgiau annerbyniol o offer trydanol yn eich gweithle. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn cyflawni hyn; dyma rai ohonynt.
Sicrhau bod y gosodiad trydanol yn ddiogel
Darparu offer diogel ac addas
Gostwng y foltedd
Un o'r ffyrdd gorau o ostwng y risg o anaf wrth ddefnyddio offer trydanol yw cyfyngu'r foltedd cyflenwi i'r foltedd isaf sydd ei angen i wneud y gwaith, fel:
Darparu dyfais ddiogelwch
Os defnyddir offer sy'n gweithredu ar 230 folt neu'n uwch, gall RCD (dyfais cerrynt gweddilliol) ddarparu diogelwch ychwanegol. Mae RCD yn ddyfais sy'n canfod ambell i nam, ond nid pob un, yn y system drydanol ac yn troi'r cyflenwad i ffwrdd yn gyflym. Y lle gorau i RCD yw wedi ei adeiladu i mewn i'r prif switsfwrdd neu'r allfa soced, am fod hyn yn golygu y caiff y ceblau cyflenwi eu diogelu'n barhaol. Os nad yw hyn yn bosibl gall plwg sy'n ymgorffori RCD, neu addaswr RCD i'w blygio i mewn, hefyd ddarparu diogelwch ychwanegol.
Mae gan RCDs ar gyfer diogelu pobl gyfradd cerrynt tripio (sensitifrwydd) heb fod yn fwy na 30 milliamp (mA). Cofiwch:
Gwneud gwaith cynnal a chadw ataliol
Dylid cynnal a chadw pob offer a gosodiad trydanol i atal perygl. Argymhellir yn gryf bod hyn yn cynnwys system briodol o archwilio gweledol a, lle bo angen, profion. Drwy ganolbwyntio ar system syml, rad o edrych am arwyddion gweledol o ddifrod neu namau, gellir rheoli'r mwyafrif o risgiau trydanol. Bydd angen ategu hyn gyda phrofion fel bo angen.
Argymhellir y dylai person cymwys archwilio a phrofi gosodiadau sefydlog yn rheolaidd.
Bydd amledd archwiliadau ac unrhyw brofion angenrheidiol yn dibynnu ar y math o offer, pa mor aml y caiff ei ddefnyddio, a'r amgylchedd y'i defnyddir ynddo. Gall cofnodion o ganlyniadau'r archwiliadau a'r profion fod yn ddefnyddiol wrth asesu effeithiolrwydd y system. Mae arweiniad manylach ar gael yn y llyfrynnau a restrir ar dudalennau 6 - 8.
Gall defnyddwyr offer helpu drwy roi gwybod am unrhyw ddifrod neu namau y byddant yn dod o hyd iddynt.
Gweithio'n ddiogel
Gwnewch yn siwr bod pobl sy'n gweithio gyda thrydan yn gymwys i wneud y gwaith. Gall hyd yn oed tasgau syml fel weirio plwg arwain at berygl - sicrhewch fod pobl yn gwybod beth maent yn ei wneud cyn iddynt ddechrau.
Sicrhewch:
Dim ond pobl sydd â gwybodaeth o'r risgiau a'r camau diogelu sydd eu hangen ddylai fynd i'r afael â thasgau mwy cymhleth, fel atgyweirio offer neu newidiadau i osodiad trydanol.
Ni ddylech ganiatáu gwaith ar neu gerllaw rhannau byw agored offer oni bai ei fod yn hollol angenrheidiol a bod camau diogelu addas wedi eu cymryd i atal anafiadau, i'r gweithwyr ac i unrhyw un arall a allai fod yn yr ardal.
Ceblau pwcirc;er tanddaear
Dylech dybio bob amser y bydd ceblau yn bresennol pan fyddwch yn cloddio yn y stryd, y palmant neu ger adeiladau. Defnyddiwch gynlluniau gwasanaeth diweddar, offer osgoi ceblau ac arfer cloddio diogel i osgoi perygl. Dylai cynlluniau gwasanaeth fod ar gael o gwmnïau trydan rhanbarthol, awdurdodau lleol, awdurdodau priffyrdd, ac ati.
Ceblau pwcirc;er uwchben
Pan fyddwch yn gweithio ger llinellau uwchben, mae'n bosibl eu troi i ffwrdd os rhoddir digon o rybudd i'r perchenogion. Os na ellir gwneud hyn, ymgynghorwch â'r perchenogion ynglyn â phellter gweithio diogel o'r ceblau. Cofiwch y gall trydan fflachio o linellau uwchben er na fydd peirianwaith ac offer yn eu cyffwrdd. Achosir dros hanner y damweiniau trydanol angheuol bob blwyddyn drwy gysylltiad â llinellau uwchben. Mae arweiniad manylach ar osgoi perygl o linellau trydan uwchben ar gael gan HSE.
Rheilffyrdd a thramffyrdd trydanol
Os byddwch yn gweithio ger rheilffyrdd neu dramffyrdd trydanol, ymgynghorwch â'r cwmni sy'n gweithredu'r llinell neu'r trac. Cofiwch fod rhai rheilffyrdd a thramffyrdd yn defnyddio rheiliau trydanol yn hytrach na cheblau uwchben.
ARWEINIAD HSE AR DDIOGELWCH TRYDANOL
Mae'r cyhoeddiadau canlynol yn cynnwys cyngor ar ddefnyddio trydan yn ddiogel ar gyfer diwydiannau penodol neu mewn amgylchiadau risg uchel.
Asesu risgiau a iechyd a diogelwch cyffredinol
5 cam i asesu risgiau INDG163(W) Copïau unigol am ddim, pecynnau ar werth ISBN 0 7176 0904 9
Hanfodion iechyd a diogelwch yn y gwaith ISBN 0 7176 0838 7
Cynnal a chadw offer trydanol symudol
Maintaining portable and transportable electrical equipment HS(G) 107 ISBN 0 7176 0715 1
Cynnal a chadw offer trydanol symudol mewn swyddfeydd ac amgylcheddau risg isel eraill INDG236 (W) Copïau unigol am ddim, pecynnau ar werth ISBN 0 7176 1272 4
Maintaining portable electrical equipment in hotels and tourist accommodation INDG237 Copïau unigol am ddim, pecynnau ar werth ISBN 0 7176 1273 2
Arweiniad trydanol cyffredinol
Live rails kill - advice for people who need to work near live conductor rails IND(G) 150L Taflen am ddim
Avoiding danger from underground services HSG47 ISBN 0 7176 0435 7
Avoidance of danger from overhead electric power lines GS6(rev) ISBN 0 7176 1348 8
Electrical safety and construction sites HSG141 ISBN 0 7176 1000 4
Electricity at work - safe working practices HSG85 ISBN 0 7176 0442 X
Electrical test equipment for use by electricians GS38(rev) ISBN 0 7176 0845 X
Electrical safety at places of entertainment GS50 (ail argraffiad) ISBN 0 7176 1387 9
Electrical hazards from steam/water pressure cleaners etc PM29 (rev) ISBN 0 7176 0813 1
Selection and use of electric handlamps PM38 ISBN 0 11 886360 6
Memorandum of guidance on the Electricity at Work Regulations 1989 HSR25 ISBN 0 11 883963 2
ARWEINIAD AR DDIOGELWCH TRYDANOL GAN SEFYDLIADAU ERAILL
Noder: Argymhellion yw'r cyfnodau archwilio a phrofi ar gyfer offer trydanol yn y cyhoeddiadau hyn ac nid ydynt yn ofynion cyfreithiol.
BS 7671: 1992 Requirements for electrical installations. Rheoliadau Gwifro IEE 16eg argraffiad. Mae gan Reoliadau Gwifro IEE statws Safon Prydeinig. Fe'u hategir gan gyfres o Nodiadau Canllaw ar wahân sy'n ymhelaethu ar ofynion penodol rhannau o'r Rheoliadau.
Code of practice for in-service inspection and testing of electrical equipment
Mae'r ddau deitl ar gael o:
Institution of Electrical Engineers
PO Box 96
Stevenage, Herts SGI 2SD
FEI Recommendations for periodic safety checks for business equipment
Ar gael o:
Publicity Department, Ref SR
FEI
Russell Square House
10-12 Russell Square
London WCIB 5EE
GWYBODAETH BELLACH
Mae'r daflen hon ar werth mewn pecynnau o 15 o HSE Books, ISBN 0 7176 1207 4. Mae copïau unigol am ddim hefyd ar gael o HSE Books.
Mae cyhoeddiadau ar werth a chyhoeddiadau am ddim yr HSE ar
gael i'w harchebu drwy'r post:
HSE Books, PO Box 1999, Sudbury, Suffolk CO10 6FS
Ffôn: 01787 881165 Ffacs: 01787 313995
Mae cyhoeddiadau HSE sydd ar werth hefyd ar gael o lyfrwerthwyr da.
Ar gyfer ymholiadau eraill ffoniwch Linell Wybodaeth HSE, Ffôn: 0845 345 0055 , neu ysgrifennwch at HSE Infoline, Caerphilly Business Park, Caerphilly, CF83 3GG
Mae cyhoeddiadau Cymraeg sydd am ddim ar gael o:
Swyddfa HSE Caerdydd, Adeiladau'r Llywodraeth, Ty Glas,
Llanishen, Caerdydd CF14 5SH.
Ffôn: 01222 263 000
Tudalen gartref HSE ar y We Fyd Eang: http://www.open.gov.uk/hse/hsehome.htm
Mae'r daflen hon yn cynnwys nodiadau ar arfer da nad yw'n orfodol ond a allai fod o ddefnydd i chi wrth ystyried yr hyn sydd angen i chi ei wneud.
Gellir atgynhyrchu'r llyfryn hwn am ddim, ac eithrio at ddibenion hysbysebu, ardystio neu werthu. Mae'r wybodaeth yn gyfredol ar 8/96. Cydnabyddwch y ffynhonnell fel HSE.
Argraffwyd a chyhoeddwyd gan Awdurdod Gweithredol lechyd a Diogelwch INDG231(W) 4/98 C20